Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (9) |
1.
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gofynnwyd y 15 cwestiwn.
14.35
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
14.46
Pwynt o drefn
Ar ôl i’r Llywydd ystyried ymhellach y pwynt o drefn a godwyd gan Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ynghylch sylwadau a wnaed gan Antoinette Sandbach, yr Aelod dros Ogledd Cymru, ar 22 Mehefin, atgyfnerthodd y dyfarniad fod Aelodau unigol yn gyfrifol am gynnwys a chywirdeb eu cyfraniadau. Os caiff y cyfraniadau hynny eu profi i fod yn anghywir, mae’r Llywydd yn disgwyl i Aelodau dynnu eu sylwadau yn ôl yn syth ac i ymddiheuro. Pan fydd Aelodau’n cael eu gwahodd i ymateb i Bwynt o Drefn, mae’n bosibl y byddant am egluro’u sylwadau. Fodd bynnag, nid cyfle yw hyn i ymestyn y ddadl ymhellach. Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch yr hyn a ddywedwyd, dylai Aelodau ymatal rhag gwneud unrhyw bwyntiau pellach, a darllen y Cofnod o’r hyn a ddywedwyd, unwaith y caiff ei gyhoeddi, i gadarnhau’r sylwadau.
Gwnaeth y Llywydd atgoffa’r Aelodau bod disgwyl iddynt ddangos parch at ei gilydd ac i fod yn gwrtais a bod disgwyl iddynt gydymffurfio â chyfarwyddiadau o’r Gadair. Er y dylai trafodaethau yn y Cynulliad fod yn rhai cadarn, dyfarnodd y Llywydd na ddylai unrhyw faterion bach am iaith, neu bwyntiau sy’n amherthnasol i’r drafodaeth dan sylw neu i’r cyhoedd, fod yn destun pwynt o drefn yn rheolaidd.
14.48
3. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011
NDM4745 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod fersiwn drafft Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mehefin 2011.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM4745 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod fersiwn drafft Rheoliadau Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mehefin 2011.
Cynhaliwyd pleidlais y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
10 |
2 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig.
15.06
4. Dadl ar Wasanaethau Cymdeithasol
NDM4746 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod mai'r gwerthoedd, yr egwyddorion a'r weledigaeth sydd wedi'u pennu yn "Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu" yw'r allwedd i gyflawni ein huchelgais ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru; ac
2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac i arwain y rhaglen newid y mae gofyn ei chynnal er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i fodloni anghenion a dyheadau ein dinasyddion.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig
a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1
- Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2, dileu’r geiriau ‘parhau i fodloni’ a rhoi ‘bodloni’ yn eu lle.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
29 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu pwynt 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
40 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Mynwy)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod manteision defnyddio taliadau uniongyrchol i ddefnyddwyr gofal cymdeithasol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hybu eu defnydd lle bo hynny’n briodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun cyflenwi ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yn amlinellu ei hymrwymiad i ddatblygu ac arwain y rhaglen newid.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
11 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’n gyflym y defnydd o Gyllidebau Personol ar gyfer gwasanaethau gofal.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
40 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4746 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod mai'r gwerthoedd, yr egwyddorion a'r weledigaeth sydd wedi'u pennu yn "Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu" yw'r allwedd i gyflawni ein huchelgais ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru; ac
2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac i arwain y rhaglen newid y mae gofyn ei chynnal er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i fodloni anghenion a dyheadau ein dinasyddion.
3. Yn cydnabod manteision defnyddio taliadau uniongyrchol i ddefnyddwyr gofal cymdeithasol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i hybu eu defnydd lle bo hynny’n briodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun cyflenwi ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yn amlinellu ei hymrwymiad i ddatblygu ac arwain y rhaglen newid.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
15.57
5. Dadl ar yr Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen
NDM4747 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi'r ymdrech y mae'r Llywodraeth yn ei gwneud, drwy'r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen, i symud adnoddau oddi wrth swyddogaethau gweinyddol a chynorthwyol a'u trosglwyddo i reng flaen addysgu a dysgu, ac i wella perfformiad addysgol a chyflawniadau dysgwyr ledled Cymru.
2. Yn croesawu cyfraniad Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol ar Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru i'r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig
a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:
‘gyda’r nod yn benodol o sicrhau bod plant sy’n gadael ysgol gynradd yn gallu darllen, ysgrifennu a chyfri i’r safon ddisgwyliedig’
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i ystyried daearyddiaeth unigryw Cymru wrth ffurfio unrhyw gonsortia addysg rhanbarthol yn y dyfodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
10 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i fanteisio ar arbenigedd athrawon wrth ffurfio polisïau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod gweithio mewn ffordd amlasiantaethol yn hanfodol er mwyn gwella perfformiad addysgol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4747 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi'r ymdrech y mae'r Llywodraeth yn ei gwneud, drwy'r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen, i symud adnoddau oddi wrth swyddogaethau gweinyddol a chynorthwyol a'u trosglwyddo i reng flaen addysgu a dysgu, ac i wella perfformiad addysgol a chyflawniadau dysgwyr ledled Cymru gyda’r nod yn benodol o sicrhau bod plant sy’n gadael ysgol gynradd yn gallu darllen, ysgrifennu a chyfri i’r safon ddisgwyliedig.
2. Yn croesawu cyfraniad Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol ar Strwythur Gwasanaethau Addysg yng Nghymru i'r Adolygiad o Adnoddau Rheng Flaen.
3. Yn cydnabod yr angen i ystyried daearyddiaeth unigryw Cymru wrth ffurfio unrhyw gonsortia addysg rhanbarthol yn y dyfodol.
4. Yn cydnabod yr angen i fanteisio ar arbenigedd athrawon wrth ffurfio polisïau.
5. Yn cydnabod bod gweithio mewn ffordd amlasiantaethol yn hanfodol er mwyn gwella perfformiad addysgol Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig.
16.43
Cyfnod pleidleisio
16.48
6. Dadl Fer
NDM4744 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Colli’r ffordd wrth bontio
Daeth y cyfarfod i ben am 17.20
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 on Dydd Mercher, 29 Mehefin 2011